Two Students Working and Smiling at SA1 Swansea Waterfront

Os ydych chi'n barod i ddechrau ar eich cais i'r Brifysgol, gall y canllawiau defnyddiol yma eich helpu trwy'r broses o ddechrau i ddiwedd.


Llyfr Gwaith Datganiad Personol

Llyfr Gwaith Datganiad Personol

Dyluniwyd y llyfr gwaith hwn fel canllaw ar gyfer ysgrifennu datganiad personol.  Mae’n cynnwys y wybodaeth angenrheidiol, gweithgareddau ac awgrymiadau gan diwtoriaid derbyn Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Ehangu Datganiad Personol

Sut i ehangu Datganiad Personol

Ydych yn chwilio am ffyrdd i ddatblygu’r Datganiad Personol ar gais UCAS? Mae’r poster hwn yn cyflwyno syniadau i fyfyrwyr blwyddyn 12 ar yr hyn y gallant ei wneud a chymryd rhan ynddo yn ystod y cyfyngiadau symud er mwyn gallu ychwanegu at y datganiad personol.

Gwneud y Gorau o Ddiwrnodau Agored Rhithwir

Gwneud y Gorau o Ddiwrnodau Agored Rhithwir

Wedi archebu lle ar ddiwrnod agored rhithwir? Bydd yn poster yma yn rhoi syniad i chi ar beth i ddiwgwl a sut i  baratoi er mwyn gwneud y mwyaf o’r profiad. 

Canllaw Fideo ar Sut i Wneud Cais ar gyfer Prifysgol

Cymerwch gip ar ein fideo ar sut i wneud cais i brifysgol. Bydd Mared yn mynd trwy broses ymgeisio UCAS, o sut i gofrestru ar gyfer UCAS apply i olrhain eich cynnydd yn UCAS track.

Canllaw Fideo ar Beth i Gynnwys Mewn Datganiad Personol

Gall ysgrifennu Datganiad Personol fod yn dasg anodd. Yn y canllaw hwn, bydd Luned yn darparu syniadau ac awgrymiadau gan diwtoriaid derbyn PCYDDS ar yr hyn i'w gynnwys yn eich datganiad personol.

Canllaw Fideo ar y Ddatganiad Personol- Beth Sydd Angen Gwybod Cyn Dechrau

Cyn i chi ddechrau ysgrifennu eich datganiad personol mae nifer o bethau i’w hystyried. Bydd Luned yn mynd trwy'r pwyntiau pwysig yn y canllaw yma ac yn rhoi cyngor ar y pethau i'w gwneud a beth i beidio â gwneud.