Ydds Hafan - Astudio Gyda Ni - Tystysgrif Addysg Uwch - Rheoli Manwerthu ar gyfer Twf (TystAU)
Mae'r diwydiant manwerthu'n parhau i dyfu ac arallgyfeirio ynghanol amgylchedd o newid byd-eang.
Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio, neu sy'n rhagweld gweithio, mewn unrhyw ddiwydiant manwerthu; Stryd Fawr, Bancio, Busnes Gwerthu Ceir, Archfarchnadoedd ac ati.
Pa un ai a ydych mewn rôl reoli ar hyn o bryd, neu'n anelu at ddatblygu eich gyrfa mewn lleoliad rheoli manwerthu, bydd y rhaglen hon yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r cymwyseddau sydd eu hangen.
Nod y rhaglen yw datblygu eich sgiliau, eich cymhwysedd a'ch hyder yn rheolwr manwerthu drwy gymryd rhan yn y modylau hyn a arweinir gan y diwydiant.
Mae Rheoli Manwerthu ar gyfer Twf ar gael drwy ddull dysgu cyfunol. Mae hyn yn golygu y bydd myfyrwyr yn mynychu dysgu ar-lein a thiwtorialau ac y byddant yn cael cyfle i fynychu cynhadledd drwy gydol y flwyddyn.
Rydym yn croesawu ac yn annog ymgeiswyr sy'n gweithio yn y diwydiant, ond nid yw hwn yn ofynnol ar gyfer y cwrs.
Opsiynau Llwybyr a Sut i Ymgeisio
Sut i wneud cais
Ewch i adran ymgeisio’r Brifysgol i gael gwybod rhagor o wybodaeth.
Am fanylion pellach, cysylltwch â Thiwtor Derbyn Rheoli Manwerthu ar gyfer Twf Laura James: laura.james@pcydds.ac.uk
Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cadw Lle ar Ddiwrnod Blasu Cais am Wybodaeth
£9,000 (Cartref/EU)
£13,500 (Dramor)
5 Rheswm dros astudio Rheoli Manwerthu ar gyfer Twf:
- Bod yn rhan o gymuned ddysgu flaengar a fydd yn llywio dyfodol manwerthu
- Datblygu eich sgiliau ym maes rheoli manwerthu i wella eich cyflogadwyedd
- Elwa o staff academaidd sydd â phrofiad sylweddol yn y diwydiant
- Ymuno â rhaglen sy'n cynnig cymorth bugeiliol ardderchog drwy ddulliau ar-lein ac wyneb yn wyneb
- Astudio Rheoli Manwerthu i dyfu eich tîm a datblygu eich gyrfa
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Os ydych yn barod i ddatblygu eich dyfodol ym maes rheoli manwerthu a datblygu twf i'r diwydiant, y rhaglen hon yw'r llwyfan y mae arnoch ei hangen.
Mae'r rhaglen Rheoli Manwerthu ar gyfer Twf yn cynnig cyfle i chi ddatblygu eich gallu i ymateb i'r amgylchedd manwerthu sy'n newid drwy fodylau sy'n canolbwyntio ar y diwydiant.
Yn fyfyriwr Rheoli Manwerthu ar gyfer Twf, cewch eich arwain gan staff brwdfrydig a chefnogol sydd â phrofiad sylweddol o reoli twf. Drwy ein dull addysgu arloesol byddwch yn ymuno ac yn cael eich annog i weithio gyda'ch cymuned ddysgu drwy weithgareddau ymarferol sy'n seiliedig ar waith.
Mae gan Reoli Manwerthu ar gyfer Twf y nodau canlynol:
- Cynyddu dealltwriaeth myfyrwyr o reoli manwerthu at ddibenion twf drwy ddulliau perfformiad cwsmeriaid a pherfformiad sefydliadol
- Darparu datblygiad proffesiynol parhaus i'r rhai sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant rheoli manwerthu neu i ddarparu cymhwyster rhagarweiniol i'r rhai sy'n dyheu am ddilyn gyrfa yn y maes
- Darparu'r wybodaeth a'r sgiliau i ddeall, dadansoddi a datblygu twf oddi mewn i amgylchedd y sector manwerthu.
- Paratoi myfyrwyr ar gyfer heriau yn y sector manwerthu yn y dyfodol
- Paratoi myfyrwyr ar gyfer astudio pellach
Modylau Lefel 4:
- Dysgu yn yr Oes Ddigidol
- Rheoli'r Gweithlu Gwerthu
- Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid
- Heriau Cyfoes Gwneud Gwahaniaeth
- Gwerthiannau Moesegol
- Dadansoddiad Gwerthiannau Targed
Asesir y rhaglen drwy amrywiaeth o ddulliau, yn academaidd ac yn ymarferol ac fe'i cynlluniwyd i ddatblygu lefel y myfyrwyr o ran sgiliau datrys problemau, dealltwriaeth a meddwl beirniadol.
Mae asesiadau yn y rhaglen yn aml yn gysylltiedig ag enghreifftiau o'r diwydiant a rhoddir cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau ymarferol sy'n annog dysgu drwy asesu ffurfiannol drwy gydol y rhaglen.
Gwybodaeth allweddol
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion sydd am ddatblygu eu gyrfa mewn amgylchedd rheoli manwerthu ac yn annog ymgeiswyr o ystod eang o gefndiroedd.
Ystyriwn ymgeiswyr ar sail eu sgiliau a'u profiadau ac nid ar sail cyflawniadau academaidd yn unig.
Ar gyfer ymgeiswyr o dan 21 oed, mae angen un Safon Uwch neu NVQ lefel 3 arnom. Derbynnir dyfarniadau eraill gan gynnwys dyfarniadau Edexcel, yn ogystal ag ystod o dystysgrifau eraill ar y lefel hon gan gyrff y DU, yr UE a chyrff Rhyngwladol.
Drwy astudio Rheoli Manwerthu ar gyfer Twf, byddwch yn cyflawni'r sgiliau a'r ddealltwriaeth o sut i reoli tîm yn effeithiol i hyrwyddo twf yn y sector manwerthu.
Mae'r rhaglen yn ymgysylltu ag astudiaethau achos y diwydiant a bydd digwyddiadau'r gynhadledd yn annog myfyrwyr i ymgysylltu â darlithwyr gwadd i gyfoethogi eu profiad.
Credwn yn gryf fod angen bod gan reolwyr manwerthu yr adnoddau ar gyfer amgylchedd sy'n newid yn y dyfodol a bydd y rhaglen hon yn helpu i roi'r hyder a'r offer i chi addasu ac arallgyfeirio eich technegau.
Rhoddir cyfle i raddedigion llwyddiannus wneud cais am fynediad Lefel 5 i BA Arweinyddiaeth a Rheolaeth (Sgiliau ar gyfer y Gweithle).
Er bod rhai myfyrwyr yn dymuno buddsoddi mewn deunyddiau ychwanegol ar gyfer modylau, megis llyfrau ac ati, mae'n bosibl cwblhau'r rhaglen hon heb unrhyw gostau ychwanegol.
Mae gan y Brifysgol lyfrgell ar-lein ardderchog sy'n galluogi ein holl fyfyrwyr i gael mynediad at lawer o adnoddau heb unrhyw gost ychwanegol.
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.
Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth.