Noson Agoriadol Syfrdanol i Fyfyrwyr
22.05.2023
Agorodd myfyrwyr ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant eu sioe graddio haf flynyddol ar nos Wener y 19eg o Fai mewn digwyddiad gorlawn ar draws nifer o leoliadau yn Abertawe.
Mae’r arddangosfa haf flynyddol yn un o uchafbwyntiau calendr Coleg Celf Abertawe, lle mae myfyrwyr o bob cwrs creadigol yn dangos eu prosiectau terfynol – penllanw blynyddoedd o ddysgu a mireinio eu crefftau.
Roedd y noson yn fwrlwm o weithgarwch, a denwyd cannoedd o fynychwyr i’r lleoliadau, gyda pherfformiadau cerddorol a DJ yn yr HQ Urban Kitchen ochr yn ochr â’r sioeau celf gweledol.
Cynhaliwyd seremoni wobrwyo yn Adeilad Dinefwr Y Drindod Dewi Sant, lle rhoddwyd gwobrau i fyfyrwyr eithriadol yn amrywio o £200 i £10,000 ar gyfer yr Artist Benevolent Scholarship mawreddog.
Meddai’r Athro Ian Walsh, Profost Campws Abertawe Y Drindod Dewi Sant: “Roedd hi’n bleser gan Y Drindod Dewi Sant agor i’r cyhoedd ddydd Gwener a chroesawu cynifer o ymwelwyr i arddangosiadau’r myfyrwyr sy’n graddio eleni o Goleg Celf Abertawe. Roedd hi’n noson wych gyda chelf anhygoel ar ddangos.
“Fel un o ganolfannau blaenllaw’r DU ar gyfer celf, dylunio a’r cyfryngau, mae’r Drindod Dewi Sant yn falch o lwyddiant ei myfyrwyr a’r safonau y maen nhw’n eu cyflawni. Mae pwysigrwydd yr artist, y dylunydd, y gwneuthurwr ffilmiau, a’r meddwl creadigol wrth ddehongli’r oes sydd ohoni ac adrodd straeon pwysig yn hanfodol yn ystod y dyddiau heriol hyn.”
Dywedodd Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd yng Ngholeg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant: “Mae’r Sioe Graddio’n ddathliad a phenllanw astudiaethau israddedig ac ôl-raddedig myfyrwyr, lle gall ymwelwyr brofi creadigrwydd rhagorol ar draws amrywiaeth eang o feysydd pwnc celf a dylunio.
“Mae colegau celf yn newid y byd – bydd ein myfyrwyr ni, y gwelwch eu gwaith pan fyddwch chi’n ymweld â’r sioe, yn mynd ymlaen i newid y byd”.
Eleni, cynhelir yr arddangosfa yn adeiladau Dinefwr, ALEX ac IQ Y Drindod Dewi Sant, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Canolfan Dylan Thomas a HQ Urban Kitchen, a bydd sioeau dethol hefyd yn arddangos yn Llundain yn New Designers yn ddiweddarach yn ystod yr haf.
Ceir manylion y cyrsiau sy’n arddangos ym mhob lleoliad isod. Bydd yr arddangosfeydd yn aros ar ddangos i’r cyhoedd yn ystod oriau dydd hyd at 16eg Mehefin (ac eithrio dyddiau Sul, Gwyliau Banc a dydd Sadwrn 27ain Mai).
Dinefwr: SA1 3EU
Celf Gain
Ffotograffiaeth
Patrymau Arwyneb a Thecstilau
MA Deialogau Cyfoes
ALEX: SA1 5DU
Celf a Dylunio Sylfaen
Crefftau Dylunio
Dylunio Cynnyrch a Chelfi
MA Deialogau Cyfoes
HQ Urban Kitchen: SA1 5AJ
Technoleg Cerddoriaeth Greadigol (Perfformiadau byw 19eg Mai, tapiau arddangos 20fed-26ain Mai)
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau: SA1 3RD
Darlunio (ar agor hyd at 18fed Mehefin)
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau a’r Wasg a’r Cyfryngau / Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus / Corporate Communications and PR
Swyddfa’r Is-Ganghellor | Vice-Chancellor’s Office
Ffôn | Phone: 07384 467071
E-bost | E-mail: Rebecca.davies@uwtsd.ac.uk