Prosiect Cwilt Deucanmlwyddiant Y Drindod Dewi Sant yn casglu'r gymuned i rannu straeon a dathlu treftadaeth gyfoethog
06.12.2022
Mae cwiltiau yn gysylltiedig â chymuned ers amser maith, gan ddod â phobl at ei gilydd, i greu a throsglwyddo sgiliau traddodiadol, wedi'u trwytho yn naratif amser a lle, gan adrodd straeon am yr unigolion neu'r grwpiau sydd wedi eu gwneud. Ac mae hynny'n sicr yn wir ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, lle mae myfyrwyr, staff, disgyblion ysgol a'r gymuned ehangach yn helpu i greu a rhannu rhan o stori'r Brifysgol, 200 mlynedd yn ddiweddarach.
Yn 2022 mae'r Brifysgol yn dathlu ei 200 mlynedd ac yn rhan o ddathliadau, mae tîm o Goleg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant wedi llunio prosiect uchelgeisiol.
Gan gyfeirio at y syniad Cymreig eiconig o Gwtsh, a'n hoffter dwfn o flancedi Cymreig, "Carthen" a chwiltiau, nod prosiect Cwilt 200 yw dod â chymuned bellgyrhaeddol ac amrywiol Y Drindod Dewi Sant at ei gilydd, gan ymestyn ar draws campysau, trefi, dinasoedd a chyfandiroedd, at ffrindiau, graddedigion a grwpiau lleol trwy gwilt 200 bloc - a phob bloc yn adrodd stori unigryw.
Mae rhaglen Patrwm a Thecstilau Arwyneb Y Drindod Dewi Sant, ac Artistiaid Preswyl Graddedig 21/22, wedi paratoi a chynnal dewis o weithdai sydd wedi cynnwys disgyblion o ysgolion lleol, grwpiau cymunedol, yn ogystal â sesiynau gyda 100 o fyfyrwyr yn y sioe ddylunio graddedigion blaenllaw yn Llundain, New Designers <https://www.newdesigners.com/>.
Meddai Uwch Ddarlithydd Y Drindod Dewi Sant Georgia McKie: "Yn sefydliad rydyn ni hefyd wedi ein rhoi at ein gilydd fesul darn; ac yn cynnwys sawl rhan newydd a hen. Yn eclectig ac yn llawn cymeriad; rydyn ni wedi cael ein casglu a'n pwytho at ein gilydd dros 200 mlynedd ein hanes. Rydyn ni am adlewyrchu'r dreftadaeth gyfoethog hon a dathlu ein hetifeddiaeth i'r dyfodol drwy Gwilt 200.
"Yn sicr, rydyn ni wedi tanio llawenydd drwy'r gweithdai wrth rannu profiadau o sgwrsio, deunydd darniog, pwyth a gwneud.
"Mae trefnu bod hyn ar gael i drwch ein cymuned wedi bod yn rhan annatod o nodau'r prosiect. Mae apêl wahaniaethol ar draws y sesiynau gweithdy; i'r rhai sydd â sgiliau cadarn mewn Patrymau Arwyneb a Thecstilau; i'r rhai sydd â diddordeb sy'n dod i'r amlwg wrth wneud a chreu; i'r rhai sydd eto i brofi'r llawenydd o weithio gyda thecstilau. "
A dewis terfynol y 200 darn bron wedi'i gwblhau, ar 5 Rhagfyr, bydd tîm yn ymgynnull yn Adeilad Dinefwr y Brifysgol i ddechrau'r broses o gwiltio.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk