PCYDDS yn lansio’r gystadleuaeth ryngwladol World Young Chef Young Waiter gyntaf i gael ei chynnal yng Nghymru
01.08.2022
Mae amser cyffrous o flaen Diwydiant Croeso Cymru wrth i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) groesawu cystadleuaeth World Young Chef Young Waiter (WYCYW) agoriadol Cymru.
Daw PCYDDS â’r cyfle rhyngwladol cyffrous hwn i bobl ifanc Cymru yn 2022 am y tro cyntaf erioed, a gwnaiff hi gynnal y gystadleuaeth am o leiaf y 3 blynedd nesaf.
Wedi’i sefydlu yn 1979, mae’r gystadleuaeth World Young Chef Young Waiter yn anelu at hyrwyddo gyrfaoedd yn y diwydiant croeso, ac mae’n agored i bob pen-cogydd a gweinydd proffesiynol sydd o dan 26* mlwydd oed ac sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru.
Gwnaiff yr ymgeiswyr gwrdd â rhai o ffigurau lletygarwch blaenllaw Cymru ar banel o feirniaid arbenigol, gwella eu sgiliau allweddol a gwneud cysylltiadau â chystadleuwyr eraill mewn amgylchedd llawn hwyl a heriol sy’n rhoi boddhad.
Mae’r cyfnod cofrestru yn dechrau heddiw, dydd Llun Awst 1af, ac yn gorffen ar Fedi 31ain. Caiff rowndiau terfynol 2022 Cymru eu cynnal yn Neuadd Brangwyn Abertawe ar Hydref 31ain a Thachwedd 1af, a gwnaiff enillwyr y gystadleuaeth hon gystadlu yn rowndiau terfynol y byd a gynhelir ym Monaco ar Dachwedd 15fed – 16eg.
Mae hanes hir PCYDDS o Addysg Uwch yng Nghymru yn cynnwys Ysgol Twristiaeth a Lletygarwch sydd wedi hen ennill ei phlwyf ac wedi dod â gwell gyfleoedd i bobl Cymru. Gan wneud cysylltiadau cryfion â busnesau a phartneriaid yn y diwydiant er mwyn creu rhwydweithiau sy’n gwella rhagolygon myfyrwyr a chymunedau, mae’r Brifysgol wrth ei bodd yn croesawu’r gystadleuaeth Young Chef Young Waiter, gan ehangu’r rhwydwaith hwn i ymgorffori sector Lletygarwch ehangach Cymru.
Mae’r gystadleuaeth wedi derbyn nawdd gan Seren Collection, grŵp lletygarwch moeth sydd eisoes yn gweithio’n agos gyda’r Brifysgol er mwyn darparu lleoliadau proffesiynol a chyfleoedd ym myd diwydiant i fyfyrwyr sy’n astudio Rheolaeth Gastronomeg Ryngwladol.
Medd Dr Jayne Griffith-Parry, y Rheolwr Rhaglen Rheolaeth Gastronomeg Ryngwladol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a chadeirydd beirniaid WYCYW Cymru: “Mae’r dalent ifanc sydd gennym yn y Diwydiant Croeso yn syfrdanol. Mae hi wedi bod yn hyfryd gweld y cyfeillgarwch a’r mewnwelediad proffesiynol sy’n dod i’r sawl sy’n cystadlu mewn gwledydd eraill, ac felly, gyda chynnwrf mawr, rwy’n agor ein cystadleuaeth ni yng Nghymru heddiw ar gyfer ymgeiswyr.
“Dyma gyfle ffantastig i gystadleuwyr Cymru i gymryd eu lle ar lwyfan y Byd, gwella eu sgiliau presennol a chyfoethogi eu gyrfaoedd ar gyfer y dyfodol, ac ar yr un pryd, cwrdd ag unigolion eraill y byd Gastronomeg a Lletygarwch.
“Rwy’n croesawu ac annog pob pen-cogydd a gweinydd i gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon a’i mentro hi yn erbyn eu cyfoeswyr. .. Dyma beth yw cyfle i Gymru ac i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wrth iddi gefnogi’r Diwydiant Croeso.”
Gall unrhyw un sydd â diddordeb gofrestru heddiw a dod yn rhan o’r datblygiad cyffrous hwn ar sîn fwyd gynyddol Cymru.
*26 ac o dan ar Dachwedd 16eg 2022
Lluniau gan: YCYW @worldycyw
Gwybodaeth Bellach
Ella Staden
Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau
Press and Media Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
E-bost | Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk
Ffôn | Phone : 07384467078