Enwi’r Athro Elena Rodriguez-Falcon yn gymrawd o’r Academi Frenhinol Peirianneg
21.09.2022
Mae’r Athro Elena Rodriguez-Falcon FREng, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, wedi’i henwi yn gymrawd o’r Academi Frenhinol Peirianneg.
Yr Athro Rodriguez-Falcon yw un o’rarweinyddion mwyaf arloesol ym maes diwygio addysg peirianneg yn y DG. Yn dilyn pum mlynedd yn gweithio fel peiriannydd mecanyddol ym Mecsico, cafodd effaith enfawr ym Mhrifysgol Sheffield, gan ganolbwyntio ar fenter, addysg peirianneg ac amrywiaeth.
Yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf mae wedi dangos arweinyddiaeth ragorol wrth sefydlu’r sefydliad addysg uwch newydd cyntaf yn y DG sy’n ymroddedig i beirianneg. Mae ei hysbrydoliaeth hithau wedi arwain at fabwysiadu addysgeg peirianneg sy’n canolbwyntio ar heriau yn NMITE (Athrofa Fodel Newydd ar gyfer Technoleg a Pheirianneg) a groesawodd ei myfyrwyr cyntaf yn ddiweddar, er gwaethaf y problemau a grëwyd gan bandemig Covid-19. Yr haf yma, fe’i penodwyd yn Ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Yn ei Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 20 Medi 2022 etholodd yr Academi Frenhinol Peirianneg 72 o ffigurau blaenllaw ym maes peirianneg a thechnoleg i’w Chymrodoriaeth. Mae’r grŵp yn cynnwys 60 Cymrawd, saith Cymrawd Rhyngwladol a Phum Cymrawd Anrhydeddus, y mae pob un ohonynt wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’w sector ei hun, yn paratoi’r ffordd gydag arloesi newydd, yn arwain cynnydd ym myd busnes neu’r byd academaidd, yn rhoi cyngor lefel uchel i lywodraethau, neu’n hyrwyddo dealltwriaeth ehangach o beirianneg a thechnoleg.
Mae Cymrodyr newydd eleni yn adlewyrchu menter barhaus yr Academi, sef Fellowship Fit for the Future, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2020, i ysgogi mwy o enwebiadau am beirianwyr rhagorol o blith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol cyn ei hanner canmlwyddiant yn 2026. Gyda’r fenter hon mae’r Academi yn ymdrechu i gynyddu cynrychiolaeth o blith menywod, peirianwyr anabl a LHDTC+, y rheini o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, llwybrau addysg anhraddodiadol a diwydiannau sy’n dod i’r amlwg, a’r rheini sydd wedi cyflawni rhagoriaeth ar gam cynharach yn eu gyrfa na’r arfer.
Caiff y Cymrodyr newydd eu derbyn yn ffurfiol i’r Academi mewn seremoni arbennig yn Llundain ar 8 Tachwedd, pryd bydd pob Cymrawd yn llofnodi’r llyfr rhôl. Wrth ymuno â’r Gymrodoriaeth, byddant yn ychwanegu eu galluoedd unigryw at genhadaeth yr Academi i fanteisio ar bŵer peirianneg i greu cymdeithas gynaliadwy ac economi gynhwysol i bawb.
Meddai’r Athro Rodriguez-Falcon: Ar ôl colli’r Frenhines Elizabeth II, a alwodd beirianneg “yn ddisgyblaeth aruchel”, mae’n teimlo hyd yn oed yn fwy arbennig cael f’ethol yn Gymrawd o’r Academi Frenhinol Peirianneg a sefydlwyd gan ei diweddar ŵr, Dug Caeredin, y Tywysog Philip.
“Mae peirianneg yn wir yn broffesiwn aruchel, yn ddisgyblaeth y mae ei hangen yn fwy nag erioed i fynd i’r afael â’r problemau y mae’r byd yn eu hwynebu ac i atal y problemau hynny.
“Mae addysg flaengar a thrawsnewidiol o’r pwys mwyaf yn hyn o beth, ac nid yn unig y mae’r anrhydedd bersonol aruthrol hon yn cadarnhau’r farn honno, ond mae hefyd yn rhoi’r ysgogiad i mi i barhau i chwilio am ffyrdd newydd o addysgu ac ymgysylltu â chenedlaethau newydd o beirianwyr amrywiol mewn modd effeithiol.
“Ond nid yw’r gydnabyddiaeth hon yn perthyn i mi yn unig. Nid yw’r gwaith rwyf wedi’i wneud yn sefyll ar ei ben ei hun. Mae peirianneg yn gamp i’r tîm fel y dywedodd Cadeirydd Rolls Royce SMR, Paul Stein unwaith. Felly, hoffwn ddiolch o’r galon i bawb sydd wedi fy helpu ac wedi fy nghefnogi ar y daith hon. Ond nid yw’r gwaith ar ben eto.”
Dywedodd yr Athro Medwin Hughes DL, Is-ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: “Hoffem longyfarch yr Athro Rodriguez-Falcon ar y clod, mawreddog a haeddiannol hwn sy’n cydnabod ei gwaith rhagorol i ddarparu profiad dysgu unigryw, entrepreneuraidd a chynhwysol sy'n rhoi'r dysgwr yng nghanol eu haddysg.
“Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Athro Rodriguez-Falcon yn ei rôl newydd fel Dirprwy Is-Ganghellor yn y Drindod Dewi Sant.”
Meddai Syr Jim McDonald FREng FRSE, Llywydd yr Academi Frenhinol Peirianneg:
“Mae’n bleser mawr i mi groesawu’r fath amrywiaeth o bobl ddawnus dros ben i Gymrodoriaeth yr Academi Frenhinol Peirianneg. O ddiwydiant a menter i addysg a llywodraeth – yn genedlaethol ac yn rhyngwladol – dyma rai o’n peirianwyr a thechnolegwyr mwyaf arloesol ac uchel eu bri.
“Mewn byd ansicr, un peth sy’n sicr – bydd sgiliau peirianneg, gweledigaeth ac arweinyddiaeth yn chwarae rhan hanfodol o ran mynd i’r afael â’r heriau domestig a byd-eang cynyddol rydym yn eu hwynebu heddiw. Bydd cysylltedd, proffesiynoldeb, profiad, a doethineb cyfunol y Cymrodyr newydd sy’n ymuno â ni heddiw yn cyfoethogi’n fawr yr arbenigedd a’r cymorth y gallwn eu darparu ar gyfer y llywodraeth a chymdeithas yn gyffredinol.”
Mae proffiliau llawn holl Gymrodyr newydd 2022 ar gael yma.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk