Cyn-fyfyriwr PCYDDS yn cael yr enwebiad uchaf am Reolaeth Teithio a Thwristiaeth Rhyngwladol


05.08.2022

Gan obeithio cyflawni gyrfa lefel uwch ym maes teithio, astudiodd Matthew reolaeth teithio a thwristiaeth ym Mhrifysgol Cymru, gan raddio gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yn 2017 cyn mynd ymlaen i gael Rhagoriaeth yn ei radd Meistr mewn Gweinyddiaeth Busnes yn 2018.

Wearing a suit and cream-coloured tie, Matthew Millar smiles towards the camera.

Ymunodd â jet2 fel swyddog gweithredol y flwyddyn olynol, ac ers hynny mae wedi cael dyrchafiad i rôl swyddog gweithredol uwch ar ôl dangos dycnwch mawr yn cefnogi gwahanol feysydd y busnes yn ystod y pandemig. Wrth enwebu Matthew, meddai Janice Mather o Jet2: “Yn rhan o ‘30 under 30’ TTG, bydd Matthew yn elwa’n bersonol ar ymestyn ei wybodaeth o’r diwydiant teithio a dysgu a datblygu gan gyfleoedd i rwydweithio a datblygu’n broffesiynol yn ogystal â dilyniant gyrfa.” Hwn yw’r rhestr fwyaf unigryw ar gyfer y rheiny sy’n gobeithio meithrin eu gyrfaoedd yn y diwydiant teithio – ’20 under 30’ TTG.

Meddai Matthew: “Yn gyntaf oll, y gwaith gwych a wnaeth y darlithwyr trwy gefnogi ac arwain yr holl fyfyrwyr. Cefais fy nghefnogi gan ffigyrau allweddol y tîm gyda phethau fel gwneud penderfyniadau am fy natblygiad proffesiynol i gyfleoedd ar leoliadau ac agor y drws i gysylltiadau allweddol ar draws y diwydiant. Nhw oedd catalydd fy symbyliad o fewn y diwydiant trwy’r wybodaeth y gwnaethant ei rhannu gyda fi. Roedd y modylau’n cwmpasu ystod mor eang o feysydd y gellir eu cymhwyso i fwy neu lai pob busnes yn y diwydiant.

Mae bod yn rhan o ’30 under 30’ TTG y flwyddyn hon ac i gael fy nghydnabod yn rhan o’r grŵp unigryw hwn wedi bod yn gyrhaeddiad anhygoel yn fy ngyrfa broffesiynol hyd yma. Mae’n rhoi i mi gyfle gwych i rwydweithio gyda chymheiriaid sydd wedi’u henwebu’n rhan o’r grŵp eleni, i drafod heriau a chyfleoedd cyfredol yn y diwydiant, i wrando ar siaradwyr gwadd ar draws nifer o ddigwyddiadau, ac i barhau i ddatblygu fy ngwybodaeth o fewn y diwydiant arbennig hwn! “

Meddai Jacqui Jones, Rheolwr Rhaglen y Portffolio Twristiaeth a Digwyddiadau: “Hoffai pawb ohonom longyfarch Matthew ar y gydnabyddiaeth anghredadwy hon, dim ond 4 blynedd ar ôl iddo ymadael â’r Brifysgol. Roedd ef bob amser yn fyfyriwr ymroddedig a oedd yn benderfynol o wneud yn dda, ac mae cael ei ddethol yn un o 30 dan 30 TTG yn gamp ryfeddol."

 

Gwybodaeth Bellach

Llinos McVicar BA (Hons), MA, AFHEA, ACIM
Principal Communications and PR Officer Alumni
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus Cyn-fyfyrwyr
Ffôn/ Phone 01792 481184  (4184) / 07850 321687                                                               
E Bost/Email: llinos.mcvicar@uwtsd.ac.uk