Rhagoriaith yn cynnal sesiwn rhannu gwybodaeth ym maes Cyfieithu ar y Pryd
13.01.2021
Yr wythnos hon, cynhaliodd Rhagoriaith, Canolfan Gwasanaethau Cymraeg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, sesiwn rhannu gwybodaeth ym maes Cyfieithu ar y Pryd
Nod y sesiwn oedd cynnal trafodaeth ar y ffordd y mae’r maes Cyfieithu ar y pryd wedi gorfod newid ac addasu o ganlyniad i Covid 19. Gan ddyfynnu profiad un cyfieithydd, “Aeth y dyddiadur o fod yn llawn gwaith i ddim, fwy neu lai dros nos!" a buan y bu'n rhaid ymateb i hynny. Dywedodd Dr. Lowri Lloyd, Cyfarwyddwr Rhagoriaith ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
“Gyda chyfarfodydd wyneb yn wyneb yn rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol ar hyn o bryd, bu'n her i’r gwasanaeth cyfieithu ar y pryd symud ar-lein er mwyn sicrhau cydraddoldeb ieithyddol i'r Gymraeg a'r Saesneg. Bu'n rhaid i'n cyfieithwyr yng Nghymru uwchsgilio a manteisio ar y dechnoleg ddiweddaraf er mwyn galluogi i hyn ddigwydd ac mae'n syndod sut y maent wedi llwyddo.”
Yn ystod y sesiwn, a gafodd ei gynnal gan Rhagoriaith, a'i ariannu gan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, cafwyd cyfraniadau gan gyfieithwyr llawrydd a chyfieithwyr llywodraeth leol er mwyn cynnig arweiniad i unigolion nad ydynt yn gyfarwydd â'r maes. Nodwyd hanfodion y gwaith gan dynnu sylw hefyd at y manteision a'r anfanteision. Cyffyrddwyd ag ystyriaethau technegol, ariannol a chytundebol ond mae'n debyg mai'r brif neges yw'r ffordd y mae'r newid yn cynnig llu o fanteision gan gynnwys:
- Gweithio gartref, llai o deithio,mwy diogel o dan yr amgylchiadau.
- Mae’n well i’r amgylchedd.
- Dim angen gwefru/diheintio a chludo offer.
- Mae’n fwy cost-effeithiol i gwsmeriaid ac mae gwell presenoldeb mewn cyfarfodydd.
Ym marn Lynwen Davies a Nerys Hurford, sef dau o gyfranwyr y sesiwn, mae'n annhebygol y bydd y maes hwn yn dychwelyd i'r hyn yr ydoedd cyn Mawrth 2020 ac mewn gwirionedd mae'n rhoi'r un boddhad ac ymdeimlad o fwrlwm ag yr oedd cyfieithu ar y pryd 'byw' mewn ystafell gyfarfod. Nododd Lynwen Davies:
“Cafwyd trafodaeth arbennig iawn gyda chyfieithwyr ar draws Cymru yn dod at ei gilydd i rannu eu profiadau. Mae’r cyfnod diwethaf hwn wedi bod yn un heriol iawn ac mae pawb wedi gorfod addasu i’r ffordd newydd yma o weithio.
Rwy’n falch ein bod wedi gallu cynnig y cyfle hwn oherwydd mae gwaith cyfieithydd ar y pryd yn gallu bod yn un digon unig ar adegau.”
Bydd Rhagoriaith yn cynnig hyfforddiant ym maes Cyfieithu ar y Pryd o bell dros yr wythnosau nesaf ac mae croeso gan unrhyw un sydd â diddordeb gysylltu â rhagoriaith@pcydds.ac.uk
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 01267 676663