Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Llambed yn cynnal trafodaethau Caffi Athroniaeth wythnosol ar-lein gyda’r Athro Emeritws Chris Norris
28.07.2020
Yn ystod cyfyngiadau symud Coronafeirws mae Adran Athroniaeth Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi bod yn cynnal sesiynau Caffi Athroniaeth wythnosol ar-lein, dan arweiniad yr Athro Emeritws amlwg, Chris Norris.
Mae’r Caffi Athroniaeth ar-lein wedi bod yn gyfle i ddod â myfyrwyr ôl-raddedig at ei gilydd er mwyn cyfnewid syniadau athronyddol ac annog trafodaeth. Mae myfyrwyr ôl-raddedig o gyrsiau Athroniaeth, Damcaniaeth Lenyddol ac Ysgrifennu Creadigol y Drindod Dewi Sant wedi croesawu’r cyfle i gwrdd ar-lein a thrafod eu barn gyda’r Athro Emeritws Norris. Un o’r myfyrwyr hynny yw Martyn Sampson. Meddai:
“Mae’r Caffi Athroniaeth yn lle unigryw am fod trafodaeth ar unrhyw bwnc yn bosibl. Bydd pynciau’n cael eu dewis o wythnos i wythnos, ac yn wir, yn ystod y sesiynau eu hun, gan ein bod yn dilyn llinynnau sgyrsiau i ble bynnag maen nhw’n ein harwain. Mae gan Chris wybodaeth bolymathig o athroniaeth a’r dyniaethau’n gyffredinol, ac mae ef tu hwnt o hael a chefnogol wrth annog myfyrwyr i fynegi eu syniadau. Mae’r trafodaethau’n wahanol i’r rhai a geir mewn seminarau confensiynol am fod y fframwaith beirniadol a ddefnyddir yn fwy hyblyg na’r fframwaith a ddefnyddir fel arfer, ond er hynny mae’n un trylwyr. Gobeithio y byddwch yn galw heibio – mae croeso mawr i chi.”
Yr Athro Emeritws Christopher Norris
Mae’r Athro Emeritws Christopher Norris yn Athro Ymchwil nodedig mewn Athroniaeth ac yn awdur mwy na deg ar hugain o lyfrau ar agweddau ar athroniaeth a damcaniaeth lenyddol. Ei brif ddiddordeb ar hyn o bryd yw’r berthynas rhwng athroniaeth a barddoniaeth, gan gynnwys y syniad o gerddi fel modd o fynd i’r afael â themâu athronyddol.
Cychwynnwyd y Caffi Athroniaeth gan Dr Rebekah Humphreys, Darlithydd mewn Athroniaeth ar gampws Llambed y Drindod Dewi Sant. Ychwanegodd hithau:
“Rydym ni’n ffodus iawn bod yr Athro Emeritws byd-enwog Chris Norris yn cynnal y Caffi Athroniaeth ar-lein hwn ar gyfer ein hôl-raddedigion Athroniaeth, Damcaniaeth Lenyddol ac Ysgrifennu Creadigol. Er ei fod i gyd yn digwydd ar-lein mae ein myfyrwyr yn ei fwynhau’n fawr. Mae’n ardderchog i’n myfyrwyr ymchwil a’n myfyrwyr MA gael y cyfle i gael trafodaeth athronyddol anffurfiol â rhywun o’i statws yn y maes.
Yn ystod y cyfnod heriol hwn mae’n bwysig dod â’n myfyrwyr at ei gilydd fel hyn a, rhaid i mi ddweud, rydym ni wedi cael trafodaethau athronyddol rhagorol dros y misoedd diwethaf!”
I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau a darpariaeth y Drindod Dewi Sant mewn Athroniaeth, ewch i’n gwefan: https://www.uwtsd.ac.uk/philosophy/
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384467076