Karen McKinnon

08.03.2018

Mae Karen MacKinnon, sydd â’i chartref yng Nghymru, wedi bod yn gweithio fel curadur rhyngwladol er un mlynedd ar bymtheg, gan gynnwys rolau yn Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe a Chapter, Caerdydd.

Karen Mackinnon

Yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi trefnu a churadu arddangosfeydd cyfoes a hanesyddol ac wedi datblygu diddordeb penodol yn y cysylltiadau rhwng y lleol a’r byd-eang, lle a lleoliad. Yn fwy diweddar, mae wedi bod yn gweithio mewn nifer o gyd-destunau gwahanol ar ac oddi ar y safle, gan weithio gydag ymarferwyr sy’n ymgysylltu â’r gymdeithas yn ogystal â’r rheini y mae eu gwaith yn seiliedig mewn oriel. Yn 2005, curadodd yr arddangosfa Somewhere Else Cymru yn Biennale Fenis oedd yn cynnwys gwaith Peter Finnemore, Laura Ford, Paul Granjon a phreswyliad gyda Bedwyr Williams. Yn 2008, bu’n cydguradu’r arddangosfa Displaced â Maria Clara Bernal - celf gyfoes o Golombia a ddangosai waith 15 artist gan gynnwys artistiaid megis Oscar Munoz, Jose Alejandro Restrepo a Maria Elvira Escalon. Mae hefyd wedi gweithio ar Lets see what happens… cyfnewid rhyngwladol rhwng saith artist, Tim Davies, Yingmei Duan, Paul Emmanuel, Owen Griffiths, Zeng Huanguang, Maleonn Ma a Fern Thomas. Yn 2013, penodwyd Karen yn Gyfarwyddwr Arddangosfa a Gwobr Celfyddydau Gweledol Ryngwladol Artes Mundi.

Gwybodaeth Bellach

Cate Hopkins

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau| Press and Media Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus| Corporate Communications and PR

Swansea:   Mount Pleasant campus, Mount Pleasant, Swansea, SA1 6ED

Mobile:      07384 467 078

Skype:       Catherine Hopkins

Email:        catherine.hopkins@uwtsd.ac.uk

Website:     www.uwtsd.ac.uk/news/