Mae gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (YDDS) dri phrif gampws yn Ne-orllewin Cymru - Caerfyrddin, Llambed ac Abertawe ac yn ogystal â champysau yn Birmingham a Llundain a chanolfannau dysgu yng Nghaerdydd.
Cyflwynwn raglenni mewn nifer o mewn cydweithrediad â phartneriaid allanol, megis yr YMCA. Mae’r lleoliadau presennol yn cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Chasnewydd. Mae pob un ohonynt yn cynnig math gwahanol o brofiad myfyrwyr, ac ar yr un pryd maent yn rhannu awyrgylch cymunedol cyfeillgar.
Matrics Arloesi | Yn agor Mai 2024
Matrics Arloesi, adeilad ac eco-system newydd o’r radd flaenaf sy’n canolbwyntio ar arloesi digidol, yng nghanol Ardal Arloesi SA1 Abertawe.
Mae datblygiad Campws Glannau SA1 ac Ardal Arloesi Abertawe PCYDDS, yn ardal forol y ddinas, wrth ymyl y marina a darn pum milltir o draeth tywodlyd.
Y prif adeilad, yr IQ, yw lle byddwch chi’n datblygu syniadau ffres ac yn darganfod dyfeisiadau newydd gyda STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg), gyda mynediad at offer arbenigol ar gyfer eich astudiaethau a’ch prosiectau. Mae’r IQ hefyd yn gartref i raglenni addysg ac addysg athrawon PCYDDS yn Abertawe. Ac mae ein llyfrgell newydd hynod fodern, Y Fforwm, gyda’i golygfeydd syfrdanol o’r ddinas a’r môr, ychydig gamau i ffwrdd.