Ydds Hafan - Y Brifysgol - Campysau, Canolfannau a Lleoliadau - Campws Llambed - Pam Llambed?
Pam Llambed?
Mae Llambed yn cynnig profiad sy’n gynhenid wahanol i unrhyw gampws arall. Mae’n gynhwysol, yn gefnogol, yn eich annog ac mae ganddo natur deallus sy’n ffocysu ar ddatblygu myfyrwyr i fod yn unigolion sydd wedi cael addysg dda, sy’n hapus, annibynnol a chyflogadwy.
Yng nghampws Llambed, rydym yn cynnig ymagwedd bersonol a chynhwysfawr at astudio ac rydym yn sicrhau eich bod yn cael aelod academaidd o staff fel tiwtor am y dair blynedd y byddwch yn astudio yma.
Ynghyd â hyn, rydym yn cynnig rhaglen addysgu arloesol a throchol sy’n cylchdroi o gwmpas blociau modwl sefydlog, sy’n cyfoethogi’r profiad dysgu.
Gyda dosbarthiadau bach eu maint ac academyddion o’r radd flaenaf, caiff myfyrwyr eu hannog i archwilio eu cariad at eu pwnc a’u llais. Mae yma Undeb y Myfyrwyr ffyniannus sydd ag amrywiaeth o glybiau a chymdeithasau o chwaraeon i ail-greu hanesyddol, o chwarae gemau i LGBTQ. Ar gampws Llambed, gallwch fod yn chi eich hun.