Eich Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol yw'r un lle y gallwch gael yr holl wybodaeth, cyngor a chanllaw personol 1-i-1 y bydd eu hangen arnoch i gael y gorau o'ch amser yn PCYDDS.
Rydym yn dîm o ymarferwyr Gyrfaoedd Prifysgol profiadol a chymwys yn broffesiynol. Rydym yn bodoli i'ch helpu i ddeall eich opsiynau Gyrfa a datblygu eich Cyflogadwyedd.
Gallwn hefyd helpu gydag ymholiadau ynghylch:
- Dechrau arni a chynhyrchu syniadau Gyrfaoedd
- Deall eich opsiynau a gwneud penderfyniadau cadarn
- Dod o hyd i brofiad gwaith o safon, a'i gael
- Deall eich opsiynau Ôl-raddedig
- Cychwyn eich Busnes eich hun
- Chwilio swyddi yn effeithiol
- CV’au, Ceisiadau a Datganiadau Personol
- Cyfweld & Canolfannau Asesu
… A llawer mwy trwy ein platfform digidol Gyrfaoedd newydd Fy Ngyrfa a ddarparwyd I chi mewn partneriaeth ag Abintegro.
Gallwch gysylltu â thîm y Gwasanaeth Gyrfaoedd trwy:
E-bost: gyrfaoedd@pcydds.ac.uk
Oriau agor:
Dydd Llun 8.30 – 5.00
Dydd Mawrth 8.30 – 5.00
Dydd Mercher 8.30 – 5.00
Dydd Iau 8.30 – 5.00
Dydd Gwener 8.30 – 4.30
Yn ychwanegol at yr amrywiaeth ehangaf bosibl o wybodaeth, cyngor ac adnoddau Gyrfaoedd a ddarperir trwy ein platfform Gyrfaoedd digidol Fy Ngyrfa gallwch hefyd ddod o hyd i newyddion am swyddi gwag a Gyrfaoedd yma:
- Facebook: @UWTSDCareers
Ydych chi'n:
- Myfyriwr yn gofyn am apwyntiad Gyrfaoedd am y tro cyntaf gyda ni yn ystod y 12 mis diwethaf?
- Graddedig (waeth beth fo'i benodiadau Gyrfa blaenorol neu ddyddiad Graddio)?
Os oes, rhowch fanylion trwy'r ffurflen Archebu Ar-lein isod:
Os ydych eisoes wedi cwblhau'r ffurflen Archebu ar-lein isod yn ystod y 12 mis diwethaf, yna cysylltwch â'ch Ymgynghorydd Gyrfaoedd lleol (gweler y manylion cyswllt penodol i'r campws isod):
Ydych chi'n fyfyriwr amser llawn o dan 25 oed sy'n chwilio am brofiad gwaith?
Efallai eich bod yn gymwys ar gyfer rhaglen Cyflawniad trwy brofiad gwaith GO Wales.
Am fwy o fanylion, cysylltwch â ni drwy GO Wales.
Hunan Ymwybyddiaeth
Fel Myfyriwr PCYDDS cyfredol mae gennych bellach fynediad llawn 24/7 i blatfform blaenllaw Gyrfaoedd brifysgol. Trwy'r platfform hwn mae gennych fynediad isod i wybodaeth Gyrfaoedd, Hunanasesu, Cynlluniwr Gyrfa, gwiriwr CV360 a LLAWER mwy. 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.