Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Ôl-raddedig  -  TAR Uwchradd Celf a Dylunio gyda SAC

TAR Uwchradd Celf a Dylunio gyda SAC

Gwnewch Gais Nawr

Mae’r llwybr TAR Uwchradd Celf a Dylunio yn gyffrous, arloesol a heriol. Fe fydd yn eich paratoi’n drylwyr at yr alwedigaeth addysgu.

Ein prif nod yw eich galluogi i fod yn athro Celf a Dylunio hyderus o ansawdd uchel sydd â gwybodaeth gadarn o ddatblygiad y cwricwlwm yng Nghymru. Rhoddir pwyslais ar weithio mewn partneriaeth gydag ysgolion, cyfoethogi eich sgiliau trwy weithdai ymarferol, yn ogystal â rhoi ichi brofiad o waith cydweithredol ac ymchwil gydag orielau ac amgueddfeydd.

Mae gwybodaeth pwnc, creadigrwydd, dychymyg, cymhelliant a brwdfrydedd rhagorol  i wneud dysgu Celf a Dylunio yn brofiad pwrpasol i’w fwynhau i ddisgyblion yn ofynion hanfodol o’r cwrs.

Rydym yn rhoi ffocws arbennig ar ddefnyddio Celf gyfoes, gan gynnwys enghreifftiau Cymreig ac rydym yn gweithio’n agos gydag asiantaethau allanol fel Oriel Glynn Vivian, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Artes Mundi, Oriel Saatchi a Tate Modern.

Byddwch hefyd yn cael y cyfle i weithio fel Artist Preswyl neu gael profiad mewn amgueddfa neu oriel ar gyfer lleoliad byr i gynyddu eich cyflogadwyedd.

Yn ogystal, byddwch yn paratoi i addysgu’r cwricwlwm newydd ar gyfer y Maes Dysgu a Phrofiad: Celfyddydau Mynegiannol, a’r grwpiau arholiad ar gyfer cyrsiau Celf a Dylunio TGAU a Lefel A. Bydd hyn yn cynnwys cyflwyno sbectrwm llawn a chyffrous o brofiadau creadigol.

Dyluniwyd y llwybr hwn i ddatblygu eich gwybodaeth arbenigo, profiad a sgiliau i’ch galluogi i ddefnyddio’ch arbenigedd a’ch brwdfrydedd i ysbrydoli eich disgyblion ar draws yr ystod uwchradd.

*Bydd y radd hon yn cael ei hailddilysu a'i hadolygu yn y flwyddyn academaidd 2023/24 i sicrhau bod cynnwys y cwrs yn parhau’n gyfredol. Pe bai unrhyw newidiadau’n cael eu gwneud i gynnwys y cwrs o ganlyniad i’r adolygiad, bydd pob ymgeisydd yn cael eu hysbysu unwaith y bydd y newidiadau wedi’u cadarnhau.

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

TAR Uwchradd Celf a Dylunio gyda SAC
UCAS Code: 2X5R

TAR Uwchradd Dylunio a Thechnoleg gyda SAC
UCAS Code: 2X5W


Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cadw Lle ar Sesiwn Flasu Ar-lein Sut i Wneud Cais Cymorth ariannol UCAS
E-bost Cyswllt: TeacherEd@uwtsd.ac.uk

Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: £9,000
Dramor: £13,500

Pam dewis YDDS | Yr Athrofa i astudio ar gyfer eich TAR?

  • Mae’r Athrofa yn un o’r ychydig ddarparwyr addysg athrawon dethol sydd wedi’u hachredu gan CGA
  • Mae’r Athrofa’n defnyddio technoleg ddiweddaraf Sony Vision Exchange i gefnogi dysgu ac addysgu o safon mewn oes ddigidol
  • Cyfradd gyflogaeth ardderchog o 99% ar gyfer Graddedigion TAR (DLHE 2016/17)
  • Cewch astudio ar gampws newydd modern Glannau Abertawe (SA1) gwerth £350m a’r campws hanesyddol yng Nghaerfyrddin. Yn ogystal mae gennym safle bychan yn y Tramshed Tech, Caerdydd
  • Llwybrau Cymraeg, Saesneg a dwyieithog ar gael

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r TAR yn rhaglen academaidd a phroffesiynol llawn amser, sy’n cynnwys darpariaeth yn y brifysgol am tua 12 wythnos ac o leiaf 24 wythnos mewn ysgol.

Ar draws ein casgliad o raglenni AGA, mae gennym gwricwlwm craidd arloesol wedi’i achredu o’r newydd sy’n cynnwys:

  • Modylau gorfodol
  • Datblygu sgiliau ymchwil
  • Llwybr proffesiynol ar gyfer Statws Athro Cymwysedig
  • Llwybr Datblygu’r Gymraeg
  • Pontio – gweithgareddau sy’n dod â theori ac arfer at ei gilydd
  • Maes Dewisol – profiad mewn ysgol yn dilyn maes penodol o ddiddordeb
  • Lleoliad amgen – cyfle i gael profiad mewn lleoliadau addysg nad ydynt yn ysgolion

Gan ein bod yn gweithio mewn partneriaeth gydweithredol, rydym yn cynnig ystod eang o gyfleoedd gan amrywiaeth o ysgolion, gan gynnwys ysgolion cynradd ac arbennig.

Rydym hefyd yn cynnig cyfle i gymryd rhan yng Nghynhadledd Anelu at Ragoriaeth Partneriaeth Dysgu Proffesiynol Yr Athrofa, ysgrifennu blogiau ac elwa o un o’n canolfannau ymchwil. Gallwch ddysgu rhagor ar ein gwefan.

Pynciau Modylau

Mae’r rhaglen yn llawn amser dros 36 wythnos.

Yn gyffredinol, mae’r rhaglen yn cynnwys darpariaeth 12-weeks wythnos yn y brifysgol a 24 wythnos mewn ysgol.

Modylau Lefel 6

Cylch 3 Astudiaethau Craidd: Y Dysgwr: pwy ydw i’n ei addysgu? (30 credyd; gorfodol)

Mae’r modiwl hwn yn gosod y plentyn/disgybl yng nghanol y rhaglen. Mae deall sut mae disgybl yn dysgu, wedi’i seilio ar ddamcaniaethau dysgu, tystiolaeth seiliedig ar arfer a lle iechyd a llesiant, yn hanfodol i addysgu a dysgu effeithiol. Mae’r modiwl hwn yn herio tybiaethau a chredoau sy’n gysylltiedig ag amrywiaeth diwylliannol a disgwyliadau model normadol o ddatblygiad plant.

Hefyd, mae’r modiwl hwn yn gosod yr athro fel gweithiwr proffesiynol trwy ystyried diogelu, amddiffyn plant, cytundebol, bugeiliol a chyfrifoldebau cyfreithiol.

Elfen asesu’r modiwl hwn yw aseiniad ysgrifenedig (100%; cyfwerth â 5000 o eiriau).

Cylch 3 Astudiaethau Proffesiynol ac Addysgegol: Arwain y Dysgu: beth, sut a pham ydw i’n addysgu? (30 credyd; gorfodol)

Yn y modwl hwn datblygir yn glir wybodaeth am y pwnc sy’n briodol i gyfnod a gwybodaeth am gynnwys addysgegol sydd eu hangen i addysgu cynnwys cwricwlaidd pob maes dysgu a phrofiad yn effeithiol.

Mae’r modiwl hefyd yn archwilio i natur gymhleth yr amgylchedd dysgu a’r sgiliau sydd eu hangen i reoli dysgwyr, adnoddau ac oedolion eraill. Bydd egwyddorion cynllunio, addysgu ac asesu ar gyfer dysgu wedi’u diogelu, a’r cymhwyso ymarferol wedi’i werthuso. Yn y modiwl hwn y daw dwy agwedd dysgu ddeallusol a thrwy brofiadau at ei gilydd yn y dosbarth a chefnogir myfyrwyr yn eu profiad addysgu proffesiynol gan athrawon wrth eu gwaith, cymheiriaid a thiwtoriaid prifysgol.

Elfen asesu’r modiwl hwn yw portffolio (100%; cyfwerth â 5000 o eiriau).

Modylau Lefel 7

Astudiaethau Craidd: Dysgwyr, Ysgolion a Chymunedau: ble’r ydw i’n addysgu? (30 credyd; gorfodol)

Yn y modwl hwn, mae graddedigion yn astudio pwysigrwydd lle a chyd-destun; lleol a chenedlaethol. Mae’r athro trawsnewidiol yn edrych tu hwnt i’r ystafell ddosbarth i’r gymuned lle mae dysgwyr yn byw eu bywydau ac yn ceisio dylanwadu datblygiad yn y ddau. Golyga hyn deall natur amrywiol cymuned; effaith tlodi ac amddifadedd cymdeithasol a sut i ddefnyddio data i ddeall y materion hyn ymhellach.

Elfennau asesu’r modiwl hwn yw fideo unigol (50%; 10 munud) ac adroddiad ysgrifenedig (50%; 2,500 gair)

Astudiaethau Proffesiynol ac Addysgegol: Ymchwilio i’r Dysgu: beth, sut a pham ydw i’n addysgu? (30 credyd; gorfodol)

Yn y modiwl hwn, caiff pedair nodwedd yr athro parod at ymchwil eu harchwilio’n fanwl: bod yn sgeptigol; bod yn foesol; bod yn ymchwilydd medrus, a bod yn rhan o broffesiwn sy’n ymholi.  Mae darpar athrawon yn ymuno ag athrawon wrth eu gwaith i lunio cymunedau sy’n ymholi lle caiff problemau bywyd go iawn eu hadnabod yn y dosbarth a’u hymchwilio trwy ymagwedd agos-at-arfer. Archwilir gwahanol fethodoleg yn cynnwys astudiaeth gwers, astudiaeth achos ac ymchwil gweithredol ar raddfa fach.

Elfen asesu ‘r modiwl hwn yw prosiect ymchwil (100%; 5000 o eiriau gyda’r hyn sy’n gyfwerth â 1000 o eiriau wedi’i neilltuo i’r Ffurflen Foeseg).

Asesiad

Mae’r rhaglen yn cynnig 60 credyd ar lefel Meistr a 60 credyd ar lefel Graddedig. Dyfernir y rhain wrth gwblhau asesiadau modwl yn llwyddiannus, sy’n cynnwys:

  • Astudiaethau achos
  • Portffolios
  • Cyflwyniad fideo
  • Prosiect Ymchwil

Mae pob aseiniad wedi’i gysylltu’n agos ag arfer ac wedi’u dylunio i gynnig cyfle i chi ddatblygu addysgu a dysgu sy’n cael effaith bositif ar blant a phobl ifanc.

Gwybodaeth allweddol

Meini Prawf Mynediad

Gradd Israddedig

Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd dda (o leiaf 2:2) mewn maes sy’n gysylltiedig â’r dewis bwnc uwchradd.

Cymwysterau TGAU

  • Gradd C (gradd 4 yn Lloegr) neu uwch mewn TGAU Saesneg – Iaith neu Cymraeg – Iaith neu safon gyfwerth.
  • Gradd C (gradd 4 yn Lloegr) neu uwch mewn TGAU Mathemateg neu TGAU Rhifedd neu safon gyfwerth.

Yn ogystal bydd angen i ddarpar athrawon sy’n astudio i addysgu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg gael TGAU gradd C neu uwch mewn Cymraeg (Iaith Gyntaf).

I gael gwybodaeth bellach am safonau cyfwerth â gradd C, darllenwch y Canllawiau am Gyfwerthedd TGAU

Cymwysterau Lefel A/Galwedigaethol Lefel 3

Os nad oes gan ymgeiswyr radd israddedig mewn pwnc cwricwlwm, rhaid iddynt brofi eu bod wedi astudio’n llwyddiannus ar lefelau uwch.

Profiad Gwaith

Dylech fod yn ymwybodol o realiti bod yn athro ac o fywyd yn yr ystafell ddosbarth ac felly rydym yn gofyn am brofiad diweddar a pherthnasol o leoliad addysg uwchradd. Gall hyn fod trwy swydd neu drwy wirfoddoli mewn ysgol a ddylai fod am gyfnod o ddwy wythnos ar y lleiaf.

Bydd magu hyder mewn ystafell ddosbarth ysgol yn helpu i gryfhau eich cais ac yn sail feirniadol well ar gyfer eich datganiad personol. Hefyd, fe fydd yn eich paratoi at ein proses dethol ac yn rhoi peth profiad i chi y gallwch ei ddefnyddio yn eich cyfweliad.

Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Os cewch eich derbyn ar ein rhaglen, bydd rhaid ichi gael gwiriad clirio uwch DBS (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd - CRB, Swyddfa Cofnodion Troseddol gynt) cyn gynted â phosibl. Mae ffi ynghlwm wrth y gwasanaeth a dylech sicrhau eu bod yn dewis y gwasanaeth ‘diweddaru’.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa weinyddol y TAR Uwchradd: 01792 482111 yn  TeacherEd@uwtsd.ac.uk

Am beth ydym ni’n chwilio?

  • Safbwynt positif o addysg fel ffordd i drawsnewid bywydau
  • Cymhelliant i fod yn athro rhagorol
  • Awydd empathig i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc
  • Agweddau positif at gyfiawnder, cynhwysiant ac ecwiti cymdeithasol
  • Gallu i weithio’n unigol ac fel rhan o dîm
  • Egni, brwdfrydedd a hyblygrwydd
  • Gwydnwch a dibynadwyedd
  • Agweddau ac ymddygiad proffesiynol
  • Parodrwydd i ddysgu gydol eich oes

Sut ydym ni’n dewis ein darpar athrawon?

  • Ansawdd y datganiad personol
  • Tystiolaeth o arbenigedd pwnc
  • Profiad diweddar a pherthnasol mewn lleoliad addysgol
  • Ansawdd y cyfweliad unigol
  • Perfformiad mewn profion dethol – e.e. llythrennedd, rhifedd a chymeriad
Cyfleoedd Gyrfa

Mae gan Yr Athrofa gyfraddau cyflogaeth graddedigion rhagorol gyda 99% o raddedigion yn mynd ymlaen i waith neu astudiaethau pellach.

Mae gan adrannau llawer o ysgolion a cholegau, yn lleol a chenedlaethol, nifer o’n hathrawon ac mae llawer wedi mynd ymlaen i lunio gyrfaoedd addysgu llwyddiannus ar lefel strategol, proffesiynol a rheoli yma yng Nghymru a thramor.

Fel arfer mae ein graddedigion TAR yn cadw mewn cysylltiad agos â’r Athrofa wrth iddynt lunio eu gyrfaoedd ym myd addysg ac yn aml, maent yn mynd ymlaen i fod yn fentoriaid pwnc ar y rhaglen.  Mae hyn yn creu rhwydwaith proffesiynol cryf, cynaliadwy o athrawon, sy’n ffynhonnell gyfoethog o ddatblygu proffesiynol parhaus.

Dyfyniadau Myfyrwyr

Nicole Watkins

"Rwyf wedi mynd i addysgu oherwydd mai celf yw’r pwnc gorau. Rwy’n caru celf. Byddai fy mhrofiadau yn yr ysgol wedi gallu bod yn well. Mae celf mor llawn mynegiant ac roedd arna’i eisiau datblygu setiau sgiliau i addysgu mewn ysgolion a galluogi i bobl ifanc fanteisio’n llawn arno."

Lauren Colborne

"Mae pwnc celf yn cwmpasu pob pwnc, fel llythrennedd, rhifedd, hanes, ac ati, ond mewn ffordd greadigol. Rwyf wedi bod eisiau dysgu ers cyn cof sy’n ryfedd oherwydd roeddwn i’n casáu’r ysgol a doeddwn i ddim eisiau bod yn ddysgwr. Roedd arna’i eisiau dysgu gan gamgymeriadau fy athrawon a bod yn athro sy’n ysbrydoli eraill. Mae Sian mor gymwynasgar a brwdfrydig mae hi’n dileu unrhyw bryder drwy eich annog a dweud wrthych y bydd y cyfan werth y gwaith yn y pendraw."

Emma Gardner

"Gweithiais mewn gwersylloedd a gwnes ffrindiau gyda dysgwyr lle darganfyddais bod gen i gariad at addysgu – mae’n rhoi boddhad i chi ac rydych yn gwneud gwir wahaniaeth. Mwynheais yr Wythnos Pontio Ysgolion lle cawsom y cyfle i roi popeth rydym wedi’i ddysgu ar waith."

Ben Glover

"Fe wnes gwrs Celf Sylfaen yng Ngholeg Sir Gâr lle dywedwyd wrthym i fynd a gwneud rhywbeth nad oeddem wedi’i wneud o’r blaen. Es nôl i fy hen ysgol ac fe arhosodd y profiad gyda fi am fy mod wedi ei fwynhau gymaint. Mae pwnc celf yn rhydd iawn. Mae’n hobi creadigol ac yn bwnc llawn hwyl."

Holli Abraham

"Mae Celf yn hwyl ac yn eich caniatáu i ddehongli eich diddordebau ein hun mewn celf. Fe wnes i radd ffotograffiaeth lle bues yn gwneud gweithdai yn rhan o’m ffolder allanol a mwynheais hyn yn fawr. Rwyf hefyd eisiau teithio ac mae addysgu’n digwydd ym hob cwr o’r byd."

Maria Bridger

"Mae mam yn athrawes, a chafodd ei haddysgu gan Sian, a dywedodd mai dyna oedd yr amser orau a gafod erioed. Sylweddolais fy mod yn mwynhau addysgu’n fwy na ffocysu ar fy gwaith fy hun. Rwy’n mwynhau addysgu gwahanol bethau a gweld pob myfyriwr yn gwneud gwaith creadigol drostyn nhw eu hunain. Fe wnaeth fy athrawon i ddysgu’n ddiflas sy’n gwneud ichi eisiau newid hynny. I mi dydy celf byth yn ddiflas – mae’n eich helpu i ddatblygu eich barn eich hun a magu hyder. Rwyf hefyd yn hoffi’r lleoliad anffurfiol a pheidio â bod mewn darlithfa."

Stephanie Hughes

"Rwy’n caru celf gymaint. Fe wnaeth i mi eisiau ei wneud fel gyrfa ac i drosglwyddo fy ngwybodaeth i’r genhedlaeth iau. Mae celf yn galluogi ichi barhau i ddysgu a dysgu gan bawb rydych yn eu haddysgu. Mae celf yn rhad ac am ddim a gallwch gyfleu eich teimladau ac emosiynau a rhoi chi eich hun i mewn i’ch gwaith. Bob tro rwyf mewn ystafell gelf, rwy’n ymlacio."

Disgrifiad y Rhaglen

Strwythur y Rhaglen

Cyflwynir y rhaglen dros 36 wythnos gan staff Partneriaeth Dysgu Broffesiynol yr Athrofa. Mae cyflwyno’r rhaglen yn y ffordd hon yn dod ag arbenigedd ymarferol o’r sector ysgol at ei gilydd ag ymchwil ac arbenigedd addysg uwch.

Yn gyffredinol, mae’r rhaglen yn cynnwys darpariaeth 12 wythnos yn y brifysgol ac o leiaf 24 wythnos mewn ysgol.

Mae’r rhaglen yn cynnwys cwricwlwm craidd a ddarperir ar draws ein casgliad o raglenni HGA. Mae hyn yn cynnwys:

  • Modylau Gorfodol
  • Datblygu sgiliau ymchwil
  • Llwybr proffesiynol ar gyfer Statws Athro Cymwysedig
  • Llwybr Datblygu’r Gymraeg
  • Pontio – gweithgareddau sy’n dod â theori ac arfer at ei gilydd
  • Maes Dewisol – profiad mewn ysgol yn dilyn maes penodol o ddiddordeb
  • Lleoliad amgen – cyfle i gael profiad mewn lleoliadau addysg nad ydynt yn ysgolion

Darpariaeth prifysgol

Mae’r ddarpariaeth prifysgol ôl-radd yn cael ei gynnal yn ein campws newydd o’r radd flaenaf ar ardal marina Abertawe. Gyda’r dechnoleg addysgu ddiweddaraf a mannau eang i fyfyrwyr astudio ynddynt, byddwch yn cymryd rhan mewn sesiynau creadigol ac arloesol a fydd yn eich paratoi at y cwricwlwm newydd.

Ar gyfer rhai pynciau uwchradd, bydd y ddarpariaeth yn digwydd mewn man mwy arbenigol. Mae hyn yn cynnwys pynciau gwyddoniaeth uwchradd, a gynhelir yn y cyfleusterau gwych yng Ngerddi Botaneg Cenedlaethol Cymru.  

Mae eich amser yn y brifysgol yn ffocysu ar ddysgu addysgeg o ansawdd uchel sy’n cael effaith bositif yn yr ystafell ddosbarth. Gan weithio gydag addysgwyr athrawon sy’n arbenigwyr yn eu maes nhw o addysg, byddwch yn dysgu sgiliau mewn deall sut mae plant a phobl ifanc yn dysgu a sut y gallent ddod yn ddysgwyr uchelgeisiol a medrus.   

Mae ein hathroniaeth addysgu yn annog ein darpar athrawon i gymryd rhan mewn dadleuon bywiog a meddwl gweithredol sy’n datblygu eich sgiliau meddwl creadigol ac ymgysylltu. Bydd hyn yn eich paratoi at fod yn athro sy’n seilio’ch arfer ar ymchwil ac yn ymchwilio’n weithredol, ac yn barod i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc.

Strwythur y Rhaglen – profiad yn yr ysgol

Bydd eich Profiad Addysgu Proffesiynol (PAP) yn digwydd dros gyfnod o 24 wythnos mewn ysgol, gyda dau leoliad addysgu o sylwedd. Bydd y rhain mewn rhwydwaith PDPA sy’n cynnwys ysgol a fydd yn arwain a nifer o ysgolion partneriaeth lle bydd mentoriaid profiadol a thiwtoriaid prifysgol yn eich cefnogi wrth i chi gyflawni SAC.

Mae pob profiad addysgu mewn lleoliadau gwahanol i roi ichi ystod o brofiadau a’r cyfle i ymgysylltu ag amrywiaeth o ymagweddau at addysgu a dysgu.

Yn ystod eich profiad ysgol, cewch eich cefnogi i gyfuno theori ac arfer fel y gallwch ddatblygu’r sgiliau adfyfyriol sydd eu hangen i fod yn athro tra llwyddiannus.

Cewch gyflwyniad i addysgu fesul cam i roi amser ichi fagu hyder, datblygu gwybodaeth o’r cwricwlwm a sgiliau trefnu ystafell ddosbarth. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda grwpiau bach o ddysgwyr cyn symud tuag at fod yn gyfrifol am y dosbarth cyfan.

Bydd seminarau a gynhelir mewn ysgolion ac a gyflwynir gan fentoriaid a staff prifysgol yn rhoi’r cyfle ichi gwrdd â myfyrwyr eraill yn eich rhwydwaith a chymryd rhan mewn trafodaeth gydweithredol. Mae adfyfyrio mewn ffordd a rennir fel hyn yn arf grymus wrth symud eich arfer ymlaen.

Mae ein partneriaeth o rwydweithiau’n cynnig lleoliadau trefol a gwledig yn ogystal â lleoliadau sydd ar gael naill ai mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg neu Saesneg.

Llety

Yn ogystal â’n Llety yn Llys Glas, mae gan Abertawe hefyd nifer o neuaddau preifat i fyfyrwyr, sydd i gyd o fewn taith fer ar droed, gan gynnwys:

Gwybodaeth Pellach

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.