Hafan YDDS  -  Y Brifysgol  -  Sefydliadau ac Academïau  -  Coleg Celf Abertawe  -  Celf a Dylunio Safleoedd a Gwobrau

Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr

Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr Logo

Daeth y Drindod Dewi Sant yn gydradd 1af yn y DU am foddhad myfyrwyr mewn Celf.
 - Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2020


Guardian League Table

Cododd YDDS un safle i gydradd 56ed yn Nhabl Cynghrair y Guardian League Table 2021.

Uchafbwyntiau Celf a Dylunio:

  • Mae’r Drindod Dewi Sant wedi dod yn 3ydd yn y DU am Ddylunio a Chrefftau, 5ed yn y DU am Gelf ac 8fed yn y DU am Ffasiwn a Thecstilau.
  • 1af yng Nghymru ar gyfer y tri a 1af yng Nghymru ar gyfer Cynhyrchu Ffilm a Ffotograffiaeth!

3ydd yn y DU am Ddylunio a Chrefftau, 5ed yn y DU am Gelf a 8fed yn y DU am Ffasiwn a Thecstilau -  Guardian University League Table 2021


Whatuni

What Uni Logo

Cafodd Y Drindod Dewi Sant ganlyniadau gwych yng Ngwobrau Whatuni Student Choice 2020.

Daeth Y Drindod Dewi Sant yn: 

  • 1af yn y DU am ‘Gyrsiau a Darlithwyr’, ar ôl ennill y wobr yn 2019 hefyd
  • 1af yn y DU am ‘Lety’
  • Yn y 10 gorau yn y DU am ‘Gymorth Myfyrwyr’
  • Yn y 10 gorau yn y DU am ‘Brifysgol y Flwyddyn’.

 “Rwy’n ei garu yma! Cyfleusterau gwych a chymorth da gan ddarlithwyr”

What Uni 2020 Enillydd Lletywhat uni 2020 enilltdd cyrsiau a darlithwyr


Complete University Guide

Complete University Guide logo

Mae’r Complete University Guide yn cynhyrchu tablau cynghrair a safleoedd blynyddol yn ôl prifysgol a phwnc.

Cafodd Y Brifysgol safleoedd rhagorol yn Complete University Guide 2021; dyma'r uchafbwyntiau:

  • Cynnydd o 11 lle yn gyffredinol ers 2020
  • 12fed yn y DU am foddhad myfyrwyr
  • 8fed yn y DU a 1af yng Nghymru am Gelf a Dylunio.

Complete University Guide Rating 2021


The Times & Sunday Times Good University Guide

The Times and Sunday Times Logo

Mae safleoedd The Times & Sunday Times yn darparu gwybodaeth sy’n galluogi i fyfyrwyr wneud dewis gwybodus am eu haddysg uwch.

Daeth YDDS yn y 7fed yn y DU am foddhad myfyrwyr o ran ansawdd addysgu yng nghanlyniadau 2021. 

Mae’r brifysgol hefyd yn dathlu nifer o lwyddiannau ar lefel pwnc. Yn benodol, mae darpariaeth ‘Celf a Dylunio’ y Drindod Dewi Sant wedi cael ei gosod yn gydradd 12fed yn gyffredinol allan o 83 o ddarparwyr ar draws y DU a 1af yng Nghymru.


Gwobrau

Gwobrau New Designer 2020

Enillodd Zoe Noakes (Dylunio Patrwm Arwyneb) y Wobr ‘Colour in Design’.
Dywedodd Marianne Shillingham, Cyfarwyddwr Creadigol Dulux: “Zoe rwyt ti’n gwneud bywyd yn well gyda lliw,”
– ardystiad anhygoel gan ffigur mor ddylanwadol yn y Byd Dylunio sydd â chymaint o effaith ar ein holl fywydau trwy liw.

Enillodd Grace Exley (Dylunio Patrwm Arwyneb) Wobr ‘Wilko Retail Design’.
Dywedodd y beirniaid eu bod wedi ei dewis hi am ei gallu gwych gyda lliw, ei dyluniadau trawiadol yn gweddu’r llawysgrifen ar gyfer eu brand a chwsmeriaid.

Hefyd, cafodd Heather Kelman ei chynnwys ar y rhestr fe ar gyfer Harlequin ochr yn ochr â Jessica Thomas, a gafodd ei chynnwys ar y rhestr fer ar gyfer y Wobr Dylunydd Newydd y Flwyddyn ‘Creative Conscience’.
Mae’r ddwy yn aros ymlaen yng Ngholeg Celf Abertawe ar gyfer eu Meistr mewn Dylunio Patrwm Arwyneb.


Gwybod mwy am y Gwobrau New Designer 2020


Zoe Noakes New Designer Awards 2020   Grace Exley New Designer Awards 2020


Ffeithiau a Ffigurau PCYDDS Am Coleg Celf Abertawe