Hafan YDDS  -  Sefydliadau ac Academïau  -  Coleg Celf Abertawe  -  Celf Gain  -  Staff Celf Gain

Tim Davies

Tim Davies

Yn aml, mae gwaith Tim yn cynnwys gwaith sy’n ymateb i safle, fel ei sioe unigol yn 2011 pan gynrychiolodd Cymru yn Venice Biennale.

Yn ddiweddar, mae e wedi gwneud gwaith yn safleoedd gwrthgyferbyniol Xiamen, Tsieina 2013, Vancouver (Biennale 2015), Dyffryn y Somme (ar y cyd yn rhannol â’r IWWM), a llynedd cafodd ei gomisiynu i greu gwaith perfformiadol ffotograff ar raddfa fawr yn Battersea, Llundain.

Ar hyn o bryd, mae’n paratoi gwaith newydd mewn ymateb i gerfluniau Parthenon yn Athen.


Sue Williams

Professor Sue Williams work

Mae Sue yn gweithio gyda materion heriol a chythruddol yn gysylltiedig â chenedl a rhywioldeb trwy osodwaith darlunio a phaentio mawr. Mae ei gwaith wedi ymestyn i’r theatr/perfformio a ffilm.

Mae hi wedi cyflawni enwogrwydd rhyngwladol gyda’i gwaith yn cael ei ddewis ar gyfer Artes Mundi 2006, fel derbynnydd nifer o wobrau mawr gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chyrff ariannu eraill ac mae’n arddangos ar hyd a lled y byd.

Rhwng 2016-2017 dangoswyd ei gwaith yn yr Almaen, Madrid, India, Awstralia a Chanada. Yn 2015 cafodd wobr fawr gan Gyngor Celfyddydau Cymru am ei gwaith ar y cyd â chardiolegydd rhyngwladol ar gamweithredu rhywiol.

Y flwyddyn hon fe fydd yn gweithio ar gyhoeddiad newydd o’i gwaith ar y cyd â’r artist, ysgrifennydd a damcaniaethwr Dr. Marilyn Allen. 


Craig Wood

Craig Wood

Gellir disgrifio gwaith Craig fel safle-benodol neu safle-sensitif. Mae ei arfer wedi esblygu o fod yn safle-benodol pensaernïol ar ddechrau’r 1990au, i mewn i ymchwiliad ag arlliw i sefyllfaoedd cymdeithasol a diwylliannol. Mae’n gweithio’n aml yn y man arddangos yn hytrach na mewn stiwdio.

Daeth i’r amlwg yn rhan o’r genhedlaeth YBA cychwynnol ar ddechrau’r 1990au ac mae wedi derbyn y breswyliaeth DAAD mawreddog ym Merlin a bu’n Gymrawd Gregory mewn Astudiaethau Cerfluniol gyda’r Henry Moore Foundation ym Mhrifysgol Leeds, 1997- 2000.

Ers 1995, mae wedi bod yn gweithio o De Orllewin Cymru  sydd wedi bod yn ffynhonnell bwysig o ysbrydoliaeth ar gyfer ei waith. Mae’n arddangos ei waith yn gyson yn genedlaethol a rhyngwladol.