Mae Canolfan Berfformio Cymru yn bair byrlymus o actorion, cantorion, a dawnswyr y dyfodol.
Mae ethos gwaith y cyrsiau wedi’i selio ar barch a chydweithio, ac mae hyn yn deillio o’r gefnogaeth mae’r myfyrwyr yn ei dderbyn gan ein staff a thiwtoriaid ymroddedig a phroffesiynol.
Darganfod Mwy Cefnogaeth a ChyllidDwi’n falch iawn fy mod i wedi astudio’r cwrs BA Perfformio yn y Drindod Dewi Sant – rhoddodd y cyfle i mi dyfu a datblygu fel perfformiwr ac i ddod o hyd i’m llais fy hun.
Dwi ddim yn meddwl y byddwn i byth wedi cynnig am yr X Factor pe na bawn i wedi gwneud y cwrs hwn. Roeddwn i wastad wedi canu ac wedi cael profiad o ganu o’r blaen ond rhoddodd y cwrs hyder i mi ac fe wnaeth ddysgu cymaint i mi amdanaf i fy hun. Dysgodd fi sut i sianelu fy nerfau... i feddwl fy mod i’n gallu canu o flaen miliynau o bobl bob penwythnos.. ddwy flynedd yn ôl, fyddwn i byth wedi gallu gwneud hynny. Felly na, fyddwn i byth wedi gwneud yr X Factor oni bai am yr holl waith caled a’r ymdrech y mae’r darlithwyr yn ei roi i’r cwrs yma.
Cawsom ein hannog i archwilio pob agwedd ar berfformio cyn penderfynu beth yr oeddem am ganolbwyntio arno – cawsom ni gymaint o brofiadau gwahanol. Buom ni’n gweithio hefyd gydag amrywiaeth enfawr o berfformwyr a chyfarwyddwyr proffesiynol o fyd y theatr a’r teledu trwy gydol y cwrs – pobl sydd wedi gweld ein cynnydd a thystio i’n datblygiad.
Dwi i ddim yn meddwl y byddwn wedi cael y dewrder a’r hunan-gred i fynd am glyweliad ar gyfer yr X Factor oni bai am yr holl gyfleoedd a’r profiadau gwych a gefais yn ystod fy nghyfnod ar y cwrs.