Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Israddedig  -  Cynhyrchu Cyfryngau Digidol (BA, HND, HNC)

Cynhyrchu Cyfryngau Digidol (BA, HND, HNC)

Ymgeisio Drwy UCAS - Llawn Amser

Mae’r rhaglen hon wedi’i llunio i fodloni anghenion y diwydiant cyfryngau cyfoes drwy ffocysu’n bennaf ar dechnegau cynhyrchu newydd, dosbarthu ar-lein a chynulleidfaoedd, mewn lleoliad sy’n gallu cefnogi a chynnig llawer o gyfleoedd i gynhyrchwyr. Mae arbenigwyr o’r diwydiant yn rhan o ddarpariaeth y rhaglen i sicrhau bod gennych ffocws llawn ar ofynion cyflogwyr y dyfodol ac arfer proffesiynol cyfredol.

Bydd y rhaglen hon yn eich galluogi i gynhyrchu gwaith yn eich dewis arbenigedd o fewn maes Cynhyrchu Cyfryngau Digidol, gydag ymwybyddiaeth o ystyriaethau technegol, creadigol, cyfreithiol a moesegol.

Byddwch yn datblygu ystod o sgiliau a fydd yn aros gyda chi tu hwnt i’r seremoni raddio. Bydd y sgiliau hyn yn sicrhau eich bod yn barod i ymuno â gweithlu cyfoes, gan eich paratoi i fod yn hyblyg wrth eu cymhwyso i ystod eang o ddiwydiannau a sefydliadau fel gwasanaeth creadigol.

Bydd nifer o fodylau’n cynnig cyfleoedd i gysylltu â diwydiant, yn cynnwys Canolfan S4C Yr Egin a’i thenantiaid, yn ogystal â phartneriaid yn y DU fel OM-Digital, Panasonic Lumix ac Ironman.

Mae’r rhaglen yn rhannu llawer o ethos y rhaglenni Gwneud Ffilmiau Antur, Actio, Theatr, Dylunio a Chynhyrchu sydd yn y clwstwr, o ran eu bod yn ffocysu ar ddiwydiant ac yn gydweithredol. Rhennir staff, adnoddau a chyfleusterau ar draws y rhaglenni.

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Cynhyrchu Cyfryngau Digidol  (BA)
Côd UCAS:  DMP1 
Gwnewch gais drwy UCAS

Cynhyrchu Cyfryngau Digidol  (HND)
Côd UCAS:  DMP8
Gwnewch gais drwy UCAS

Cynhyrchu Cyfryngau Digidol  (HNC)
Côd UCAS:  DMP9
Gwnewch gais drwy UCAS

Dylai ymgeiswyr llawn amser wneud cais drwy UCAS. Dylai ymgeiswyr rhan amser wneud cais drwy’r Brifysgol.


Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cadw Lle ar Ddiwrnod Blasu
E-bost Cyswllt: b.aggersberg@uwtsd.ac.uk
Enw'r cyswllt:: Dr Brett Aggersberg


Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn?

  1. Mae gan y cwrs ffocws proffesiynol sy’n cyfuno dealltwriaeth ddamcaniaethol ar lefel uchel gyda thechnegau technegol a chreadigol.
  2. Anogir myfyrwyr i edrych tuag allan a bod yn uchelgeisiol o ran eu prosiectau a’u nodau gyrfaol.
  3. Mae ein lleoliad yng Ngorllewin Cymru yn gyfoes ac mae’n cynnwys mannau pwrpasol ar ran diweddaraf campws y Brifysgol, a drws nesaf i’r Egin, canolfan y cyfryngau, sy’n gartref i gwmnïau cyfryngau annibynnol, yn ogystal â’r darlledwr cenedlaethol, S4C.
  4. Rydym hefyd yn rhannu gofod theatr bocs du mawr gyda Theatr Genedlaethol Cymru ar gyfer gweithdai cynhyrchu.
  5. Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i weithio gyda brandiau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Rydym wedi cynnal prosiectau gyda chwmnïau fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Ironman, Olympus, Lumix a Nikon Cameras.
  6. Bydd myfyrwyr yn cael ystod o gyfleoedd i gael profiadau trwy gydol y flwyddyn fel gweithio ar setiau ffilm, ffilmio lleoliadau masnachol, a chymysgu delweddau ar ffrydiau byw.
  7. Mae myfyrwyr wedi gweithio ar gynyrchiadau BBC ac S4C. Yn rhan o’r clwstwr Diwydiannau Creadigol yng Nghaerfyrddin, bydd hefyd cyfleoedd i gydweithio gydag actorion a dylunwyr set yn ogystal â’n Gwneuthurwyr Ffilmiau Antur.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Dros dair blynedd y rhaglen llawn amser bydd myfyrwyr yn dysgu’r sgiliau technegol a chreadigol hanfodol i ymdrin â briffiau gan gleientiaid ac i ddatrys problemau wrth integreiddio technolegau newydd i mewn i straeon.  

  • Mae lefel 4 yn ffocysu ar sgiliau craidd a datblygu dealltwriaeth o ddewisiadau creadigol, cysylltiadau byd-eang, technegau cynhyrchu, a’r rhwydwaith o gyfleoedd sydd ar gael.
  • Mae lefel 5 yn edrych tu allan i’r Brifysgol ar arferion diwydiant, cydweithio, ac ymagwedd fwy cysyniadol at greu cynnwys cyfryngau.
  • Mae lefel 6 yn caniatáu i fyfyrwyr gyfuno’r sgiliau maent wedi’u datblygu a’u cymhwyso i brosiectau cleientiaid a phrosiectau personol.

Anogir myfyrwyr ar bob lefel i roi eu gwaith mewn cyd-destun a gwyro prosiectau tuag at eu harbenigedd dewisol lle bynnag y bo modd. Er bod hwn yn gwrs creadigol, fe fydd myfyrwyr yn llwyddo o ddifri pan fyddant yn trochi eu hunain yn y ddisgyblaeth ar lefel dechnegol ac academaidd. Bydd cyfle i astudio dramor yn un o’n sefydliadau partner rhyngwladol sy’n cynnwys Norwy a’r Unol Daleithiau.

Pynciau Modylau

Lefel 4

Lefel 5

  • Astudiaethau Rhyngwladol Tramor* Dewisol (60 credyd; dewisol)
  • Cynhyrchu Ffilm Fer (20 credyd; gorfodol)
  • Cynhyrchu Cyfryngau Ffeithiol (20 credyd; gorfodol)
  • Diwydiannau Creadigol Digidol (20 credyd; gorfodol)
  • Gwneud Ffilmiau o’r Awyr (20 credyd; gorfodol)
  • Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy (20 credyd; gorfodol; modiwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
  • Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth (20 credyd; gorfodol; modiwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion).

Lefel 6

  • Astudiaethau Annibynnol Rhyngwladol Tramor* (60 credyd; dewisol)
  • Arfer Proffesiynol (20 credyd; gorfodol)
  • Adolygu’r Diwydiannau Creadigol (20 credyd; gorfodol)
  • Cynnwys Amlblatfform (20 credyd; gorfodol; modiwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
  • Prosiect Annibynnol (40 credyd; gorfodol)
  • Prosiect Cleient (20 credyd; gorfodol). 
Asesiad

Mae ein holl asesiadau wedi’u seilio ar waith cwrs. Nid oes unrhyw arholiadau. Bydd rhan fwyaf y gwaith wedi’i seilio ar gynhyrchu gwaith ar gyfer briff penodol. Bydd hefyd gofyn i fyfyrwyr gyflwyno prosiect, creu adroddiadau hunan-fyfyrio, ac adolygiadau o ddiwydiant. Bydd y gwaith a gynhyrchwch yn cael ei seilio ar safonau’r diwydiant ac yn caniatáu i chi fesur eich hunan yn erbyn eich uchelgeisiau eich hun. Bydd gwaith hefyd yn galluogi i fyfyrwyr gronni portffolio o waith cynhyrchu, profiad, cysylltiadau a chyfeiriadau.

Gwybodaeth allweddol

Staff
Meini Prawf Mynediad

BA – 96 o Bwyntiau UCAS

Yn ddelfrydol, bydd gan ymgeiswyr rhywfaint o brofiad o gynhyrchu cyfryngau fel Safon Uwch neu BTEC mewn pwnc perthnasol. Mae angen portffolio ynghyd â chyfweliad. Bydd pob cymhwyster lefel 3 ac uwch yn cael eu hystyried. Os nad oes gan ymgeisydd eu profiad perthnasol efallai y bydd gofyn iddynt weithio ar friff byr i’w ddarparu fel portffolio.

Rhaid bod gan fyfyrwyr ryngwladol sgôr IELTS o 5.0 heb fod yn llai na 4.5 mewn darllen, siarad, gwrando ac isafswm sgôr o 5.0 mewn ysgrifennu ar gyfer HND; ac isafswm sgôr cyffredinol o 6.0 heb fod yn llai na 5.5 mewn Darllen, Ysgrifennu, Gwrando neu Siarad ar gyfer BA (Anrh). Efallai y bydd angen VISA perthnasol ar gyfer UKVI hefyd.

Cyrsiau Cysylltiedig
Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau
Llety

Ewch i dudalen llety Caerfyrddin neu dudalen hafan llety am ragor o wybodaeth.