07.07.2022
Mae’r Brifysgol yn dathlu ein Daucanmlwyddiant eleni sy’n nodi gosod y garreg sylfaen ar gyfer Coleg Dewi Sant, Llambed ar y 12 Awst 1822. Trwy gydol y flwyddyn, bydd digwyddiadau a gweithgareddau yn cael eu cynnal ar draws ein campysau i ddathlu rôl y Brifysgol fel man geni addysg uwch yng Nghymru.
Dathlwch gyda niMae bod yn barod i wneud gwahaniaeth yn y byd yn golygu mwy na chyflawni gradd dda. Yn Y Drindod Dewi Sant, rydym yn cydnabod y bydd arnoch angen addysg gyflawn.
Rydym yn cynnig cyrsiau creadigol, addysgu arloesol a lleoliadau dysgu ysbrydoledig ar draws tri phrif gampws yn ne-orllewin Cymru – Caerfyrddin, Llambed ac Abertawe - yn ogystal â champysau yn Llundain a chanolfannau dysgu yng Nghaerdydd a Birmingham. 1af yn y DU am Gyrsiau a Darlithwyr (Gwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni 2019 a 2020).
Ewch i'n hystafell newyddion i gael mwy o newyddion y Brifysgol.
Rydym yn cynnig addysgu arloesol, offer o’r radd flaenaf a chymorth rhagorol ar draws ystod eang o leoliadau dysgu a chyrsiau.
Rydym yn gofalu am ein myfyrwyr. Mae hyrwyddo ac ymgorffori system addysgol sector deuol sy’n addysgu dysgwyr o bob oed a chefndir wrth wraidd ein gweledigaeth.