Eich Stori Chi
Eich Stori Chi
Byddwch yn arwr eich stori eich hun, trwy gael yr addysg mae arnoch chi ei heisiau. Mae 20 maes pwnc gennym i chi ddewis o’u plith ac mae gan bob un ystod gynhwysfawr o gyrsiau i’ch ysbrydoli chi. Mae’n amser cydio yn eich dyfodol gyda dwy law a gwneud eich uchelgeisiau’n realiti.
Rydym ni’n cynnig profiad mwy personol - dosbarthiadau llai a darlithoedd diddorol, gyda digonedd o gyfleoedd i fyfyrwyr gymryd rhan, gan ganiatáu trafodaeth a gwell dealltwriaeth o’r pwnc. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr pwnc a fydd yn addysgu i chi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i lwyddo ym mhennod nesaf eich stori.
More to Explore
Ymwelwch  Ni Ar Gyfer Diwrnod Agored
Dewch i’n hadnabod ni, a’r lle y byddwch yn ei alw’n gartref tra byddwch yn astudio gyda ni, a chwrdd â’r arbenigwyr sy’n arwain ein cyrsiau a chlywed gan ein myfyrwyr presennol ynglŷn â’r hyn maen nhw’n ei garu am astudio gyda ni.
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio, dod i adnabod rhagor am y pwnc o’ch dewis a hyd yn oed gasglu nwyddau am ddim i’ch paratoi ar gyfer eich blwyddyn gyntaf. Ydych chi’n barod ar gyfer eich pennod nesaf?
Cydiwch yn eich dyfodol â dwy law.
Gwyddom y byddwch wrth eich bodd yn astudio gyda ni. P’un a ydych yn chwilio am radd baglor, sylfaen, meistr neu ddoethuriaeth, mae ein harbenigwyr wrth law i helpu i’ch tywys bob cam o’r ffordd.
Darganfyddwch Ein Campysau
Ewch allan o’r ystafell ddosbarth. Pen i lawr yn y llyfrgell. Trafodwch syniadau newydd. Darganfyddwch straeon o’r gorffennol. Mwynhewch fwrlwm bywyd y ddinas. Anadlwch awyr y môr. Mae gan bob un o’n prif gampysau ei naws unigryw ei hun, sy’n rhoi’r lleoliad delfrydol i chi ddechrau eich taith.
Dechreuwch Eich Antur
Byddwch yn ymgolli mewn pwnc sy’n eich ysbrydoli – gan archwilio gwahanol lwybrau gyrfa ac opsiynau ar gyfer eich dyfodol wrth i chi fynd yn eich blaen. Beth bynnag fo’ch uchelgeisiau, byddwn yn eich helpu i gychwyn yn llwyddiannus gyda’ch nodau yn gadarn yn y golwg.
Gyda graddau mewn celf a dylunio, peirianneg, cyfrifiadura, y dyniaethau, addysg, busnes, rheolaeth, iechyd a chwaraeon, mae gennym gannoedd o opsiynau i ddewis ohonynt.