Ehangu Mynediad

"Mae staff a myfyrwyr ar draws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu cefnogaeth ac anogaeth i bobl o bob cefndir i gael addysg brifysgol.”

Mwy...

Ymgyrraeth yn Ehangach

Wrth anelu at ehangu mynediad i addysg uwch ar draws holl ystod oed myfyrwyr, trefna Partneriaethau Ymgyrraedd yn Ehangach weithgareddau dysgu a chodi dyheadau.

Mwy...

Gweithio Mewn Partneriaeth Gyda’r Gymuned

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn rhan annatod o’r gymuned leol a cheisiwn wneud cyfraniad cadarnhaol i’r ardal a’i dinasyddion mewn amryw ffyrdd

Amrywia’r rhain o brosiectau mewn cymunedau lleol i uwch aelodau staff yn cyfrannu at gyrff penderfynu sy’n effeithio ar fywydau’r cymunedau a wasanaethwn.

Bwriad y tudalennau cymunedol hyn yw arddangos rhai enghreifftiau o’n gwaith yn meithrin perthynas â’r cyhoedd.

I ni, mae ymgysylltu â’r gymuned yn ymwneud â gweithio gyda phobl o’r tu allan i’r Brifysgol fel y gallwn ddeall ein gilydd yn well.