Llunnir yr arddangosfeydd yn yr adran hon gan fyfyrwyr a staff Y Drindod Dewi Sant ynghyd â churaduron gwadd o sefydliadau eraill sydd wedi gwneud ymchwil trwy ddefnyddio’r casgliadau hanesyddol o lawysgrifau a deunyddiau argraffedig a gedwir yn Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen.

Rydym yn croesawu awgrymiadau ar gyfer arddangosfeydd ac rydym yn annog myfyrwyr YDDS i guradu a chyhoeddi eu harddangosfeydd eu hunain ar y tudalennau gwe hyn. Yr unig amod yw bod yr arddangosfeydd yn seiliedig ar ddeunydd o gasgliadau YDDS. Os hoffech fod yn rhan o hyn, anfonwch e-bost atom.