Y Cwad

Y Cwad 

Am Y Cwad

Mae’r Cwad yn ardal ddysgu fodern â mynediad agored i fyfyrwyr a staff a leolir ar Gampws Caerfyrddin. Agorodd yn gyntaf ym mis Ionawr 2010, ac yn Y Cwad mae cyfrifiaduron i fyfyrwyr, Ystafelloedd Astudio i Grŵp o fyfyrwyr, mynediad diwifr i’r Rhyngrwyd, caffi Starbucks, siop nwyddau swyddfa a gwasanaeth reprograffeg. Hefyd dyma fan cyflwyno aseiniadau myfyrwyr ar Gampws Caerfyrddin.

Sut i ddod o hyd i ni

Mae’r Cwad yn adeilad yr Hen Goleg ar Gampws Caerfyrddin, gyda’r brif fynedfa gyferbyn â’r Capel. Hefyd gallwch fynd i’r Cwad o’r coridor rhwng y Llyfrgell - Campws Caerfyrddin ac adeilad Carwyn James.

Oriau Agor: Y Cwad

Yn ystod y tymor

Rhaid cyflwyno pob aseiniad yn Y Cwad cyn 3pm ar y dyddiad cyflwyno terfynol.

Ar ddiwrnodau pan nad oes cofnod gennym o unrhyw ddyddiadau terfyn aseiniadau, bydd staff wrth ddesg y CAD yn Y Cwad am lai o oriau.

Dydd Llun   08:45 - 17:00*
Dydd Mawrth   08:45 - 17:00*
Dydd Mercher   08:45 - 17:00
Dydd Iau   08:45 - 17:00
Dydd Gwener   08:45 - 16:30
Dydd Sadwrn   11:00 - 14:00
Dydd Sul   Ar Gau

*Ar Gau: 7 Mai, 4 & 5 Mehefin

Yn ystod y gwyliau

Dydd Llun   09:00 - 17:00
Dydd Mawrth   09:00 - 17:00
Dydd Mercher   09:00 - 17:00
Dydd Iau   09:00 - 17:00
Dydd Gwener   09:00 - 16:30
Dydd Sadwrn   Ar Gau
Dydd Sul   Ar Gau

 

Y Gyfnewidfa LyfrauY Gyfnewidfa Lyfrau

Wedi prynu llyfr a’i orffen? Ddim yn gwybod beth i’w wneud ag e? Os ydych chi wedi’i ddarllen, beth am ei gyfnewid!

Ar hyn o bryd yn y Cwad: Y Gyfnewidfa Lyfrau. Y cyfan sydd ei angen yw i chi ddod â'r llyfrau yr ydych chi wedi’u darllen a’u cyfnewid am rai nad ydych chi wedi’u darllen – mae’n rhad ac am ddim ac yn dda i’r amgylchedd!

Os oes unrhyw lyfrau gennych yr hoffech eu cyfrannu, a wnewch chi cysylltu â ni.