Ystafelloedd Astudio i Grŵp

Ystafell Astudio 2 - Y CwadCampws Caerfyrddin 

Y Cwad: Ystafell Astudio 1

Ystafell astudio mynediad agored i grwpiau yw Ystafell 1 sydd â mynediad di-wifr i’r Rhyngrwyd, ac mae hawl gan fyfyrwyr i’w defnyddio ac eithrio pan fydd yr ystafell wedi’i chadw. Gall myfyrwyr sydd am gadw ystafell astudio ar gyfer grŵp gadw Ystafelloedd 2 a 3.

Y Cwad: Ystafell Astudio 2

Mae Ystafell 2 yn ystafell astudio i grŵp o 6 o bobl gyda mynediad diwifr i’r Rhyngrwyd a sgrin gyflwyno. Gall myfyrwyr fwcio’r ystafell o flaen llaw gan ddefnyddio cerdyn CAD dilys trwy fynd i http://purl.oclc.org/net/drindod/room2 a dilyn y cyfarwyddiadau. Ceir mynediad agored i’r ystafell ac mae’n rhydd i fyfyrwyr ei defnyddio pan nad yw wedi’i bwcio.

Y Cwad: Ystafell Astudio 3

Mae Ystafell 3 yn ystafell astudio i grŵp o 8 o bobl gyda mynediad diwifr i’r Rhyngrwyd a sgrin gyflwyno. Gall myfyrwyr fwcio’r ystafell o flaen llaw gan ddefnyddio cerdyn CAD dilys trwy fynd i http://purl.oclc.org/net/drindod/room3 a dilyn y cyfarwyddiadau. Ceir mynediad agored i’r ystafell ac mae’n rhydd i fyfyrwyr ei defnyddio pan nad yw wedi’i bwcio.

Campws Llambed

Mae ystafell Cohn-Sherbok yn ystafell sy’n addas ar gyfer grwpiau bach neu astudio preifat ac mae wrth fynedfa'r CAD. Mae cyfleusterau diwifr ar gael. Gellir cadw’r ystafell hon trwy anfon e-bost at cadllambed@ydds.ac.uk. A wnewch chi nodi’r dyddiad a’r amser y mae angen yr ystafell arnoch yn eglur yn eich e-bost.